Y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus
Public Accounts Committee
|
Christine Chapman Cadeirydd Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
|
|
|
|
|
31 Ionawr 2014 |
|
Annwyl Christine
Y Gymraeg
Diolch ichi am eich llythyr dyddiedig 28 Ionawr 2014 yn gofyn i bwyllgorau ystyried eu dull presennol o graffu ar y Gymraeg ac yn holi am farn ynghylch y ffordd orau o symud ymlaen gydag ystyriaethau'r Gymraeg yn y broses o graffu ar y gyllideb.
Fel y gwyddoch, rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (y Pwyllgor) yw sicrhau gwaith craffu priodol a thrylwyr o wariant Llywodraeth Cymru ac mae gennym y potensial o fewn y cylch gwaith hwn i ystyried economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwariant Llywydraeth Cymru ar ddarpariaeth y Gymraeg. Byddwn yn parhau i weithio i fewn y cylch gwaith hwn.
O ran y broses o graffu ar y gyllideb, fe gofiwch i mi, fel Cadeirydd y Pwyllgor, ysgrifennu atoch i dynnu sylw at y mater o graffu ar y ddarpariaeth Gymraeg i oedolion i graffu arni yn ystod cylch cyllideb blynyddol 2014/15.
Yn ddiweddar, hefyd, mae'r Pwyllgor wedi mabwysiadu cyfres newydd o arferion gwaith sy'n cynnwys cynnal gwaith graffu helaethach cyn gwariant. Un o ganlyniadau hyn fyddai i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad annibynnol i'r Cynulliad, i fod yn rhan o broses flynyddol y gyllideb, yn deillio o ddull wedi ffocysu rhagor ar ganfod materion gwerth am arian sy'n codi o waith y Pwyllgor drwy gydol y flwyddyn.
Yn gywir,

Darren Millar AC
Cadeirydd